"Mae mabwysiadu yn llwybr ardderchog i ddod yn rhieni. Os ydych yn dyheu am fod yn rhiant a bod gennych le yn eich calon i blentyn yna dylech ystyried y llwybr hwn."


Beth wnaeth i chi ddewis mabwysiadu?

Roeddem wedi bod yn trio cael ein baban ein hunain am beth amser ond yn anffodus doedd dim modd i ni gael teulu naturiol. Ar ôl siarad â'n tîm mabwysiadu lleol fe benderfynon ni fabwysiadu.

Oedd gennych chi unrhyw bryderon ynghylch mabwysiadu?

Ar y dechrau roeddem yn pryderu am ein hoedran ar ôl gweld adroddiadau camarweiniol yn y cyfryngau am gyfyngiadau oedran, ond doedd y rheiny ddim yn wir. Mae mabwysiadu yn broses faith, ond mae'n bwysig iawn sicrhau bod rhieni mabwysiadol yn addas, ymrwymedig ac yn cael eu paru â'r plentyn priodol. Yn bendant, gallai’r broses gael ei lleihau, ond mae awdurdodau lleol eisoes yn treialu dulliau newydd sy'n cyflymu'r broses gyffredinol yn sylweddol.

Faint o blant oeddech chi am eu mabwysiadu?

Fe benderfynon ni fabwysiadu dau blentyn bach oherwydd roedden ni am fwynhau cyfnod plentyndod. Fodd bynnag roedd paru yn bwysicach i ni ac felly nid oedran oedd y ffactor bwysicaf. Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd am fabwysiadu yn teimlo eu bod eisiau baban. Fodd bynnag, pan soniwyd wrthym am blentyn 3 oed a allai fod yn addas, fe wnaethon ni ddod i benderfyniad yn weddol gyflym. Daeth ein mab atom yn Hydref 2010 yn 3 a hanner mlwydd oed. Wedyn daeth ein merch fach atom yn Hydref 2012, yn 15 mis oed. O fewn ugain munud o gwrdd â'n mab, roedd yn eistedd ar y llawr gyda ni - ac fe roddodd gusan ffarwel i ni ar ddiwedd yr ymweliad cyntaf. Roedden ni'n lwcus iawn o gael cymorth gan deulu maeth ein mab.

Oes gennych chi unrhyw atgofion cofiadwy?

Yr hyn sy'n aros yn y cof fwyaf yw pan gwrddon ni â'n merch fach a phan welodd ein mab hi, roedd e mor annwyl a thyner. Rhedodd ar draws y parc yn wên i gyd, tra roedd hithau'n eistedd yn methu deall beth oedd yr holl ffws a ffwdan.Fe setlodd y plant yn weddol gyflym, ond fe gawson ni ambell gyfnod go heriol hefyd. Roedd cadw at arferion beunyddiol y plant yn gymorth mawr. Nawr rydyn ni'n deulu cyffredin sy'n wynebu'r un profiadau ag unrhyw deulu arall.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried mabwysiadu?

“Mae mabwysiadu yn llwybr ardderchog i ddod yn rhieni. Os ydych yn dyheu am fod yn rhiant a bod gennych le yn eich calon i blentyn yna dylech ystyried y llwybr hwn." Mae gennym y teulu roeddem yn awyddus i'w gael, y Nadoligau roeddem yn breuddwydio amdanynt, y strancio yr oedden ni'n amau sut y byddem yn ymdopi â nhw, a'r teimlad cynnes o gael cwtsh a chusan wrth ddweud nos da. Y cyngor gorau allwn ni ei roi ydy, peidiwch â bod ofn gofyn. Drwy ddweud hynny rydyn ni'n golygu teulu a ffrindiau yn ogystal â'ch tîm mabwysiadu lleol. Mae'r byd yma'n fach; mae mabwysiadu yn eithaf cyffredin ac mae wedi cael effaith ar nifer o bobl rydych chi'n eu hadnabod. Fe gawson ni lawer o gefnogaeth gan y tîm mabwysiadu a'r hyn sy'n arbennig dda yw bod digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu trefnu sy'n gyfle gwych i gwrdd â'r tîm mabwysiadu a mabwysiadwyr eraill. Mabwysiadu yw'r peth gorau wnaethon ni erioed ac mae'n dod â bendithion i ni bob dydd.

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again