Mae Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol yn digwydd o Hydref 17 i 23 ac mae'r thema ynghlwm wrth yr hashnod #CefnogiMabwysiadu

Fel yn y blynyddoedd cynt, yr angen i ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer rhai o'n plant sydd fwyaf agored i niwed sydd wrth galon digwyddiad eleni. Mae Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol yn berthnasol i bawb sydd wedi profi mabwysiadu ac mae’n bwysig ei bod yn cynrychioli hanesion a phryderon mabwysiadwyr a phobl sydd wedi eu mabwysiadu. Nod Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol 2016 yw cynnwys pob agwedd ar fabwysiadu, i egluro a symleiddio’r broses fabwysiadu, i adlewyrchu'r heriau sydd ynghlwm wrth rianta ar ôl mabwysiadu, rhannu straeon unigolion, dangos a chyfeirio at arfer gorau a gwahodd unrhyw un y mae mabwysiadu wedi effeithio arno #CefnogiMabwysiadu

Er bod nifer y plant sydd angen teuluoedd sy’n mabwysiadu yn amrywio, mae rhan fwyaf yr asiantau yn dal i groesawu mabwysiadwyr ar gyfer grwpiau penodol o blant.  Mae’r rhain yn cynnwys: plant dros 3 neu 4 oed, brodyr neu chwiorydd sy'n aros i gael eu mabwysiadu gyda'i gilydd, plant gydag anableddau ac anghenion ychwanegol. Gallwch wylio rhai o’r straeon ar ein tudalen #GweldYPlentynCyfan  

Ewch i’n tudalennau am y broses fabwysiadu, cymorth mabwysiadu a Chwestiynau Cyffredin i ddysgu mwy. Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol neu eich asiantaeth agosaf.

Digwyddiadau

Y ffordd hawsaf i ymwneud â Mabwysiadu Cenedlaethol 2016 yw ar gyfryngau cymdeithasol, a gobeithiwn eich gweld yn defnyddio #CefnogiMabwysiadu! Oriel #CefnogiMabwysiadu 

Anogwch eich cydweithiwr, eich teulu a'ch ffrindiau i gymryd rhan. 

 

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again