Fel adnodd canfod teulu ar-lein a gwasanaeth data, mae Cofrestr Fabwysiadu Cymru yn sefydledig mewn gwasanaethau yng Nghymru benbaladr ac mae’n dal i adnabod lleoliadau mabwysiadol ar gyfer nifer fawr o blant. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae 59 o blant wedi dod o hyd i deuluoedd parhaol drwy’r gofrestr ac mae nifer fawr yn fwy o fabwysiadwyr posibl bellach wedi cofrestru.
Y gofrestr genedlaethol sy’n cysylltu ac sy’n dod o hyd i deuluoedd yw Cofrestr Fabwysiadu Cymru. Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru sy’n ei chynnal. Mae’n cynnig gwasanaeth unigryw i gynorthwyo asiantaethau mabwysiadu Cymru sy’n dod o hyd i deuluoedd i blant a darpar fabwysiadwyr.
Tîm profiadol ac ymroddedig sy'n cyflawni gwaith Cofrestr Fabwysiadu Cymru, ac mae wedi meithrin perthnasoedd gwaith ar y cyd â phob Asiantaeth Fabwysiadu ledled Cymru er mwyn lleihau oedi i blant sy’n aros am deulu mabwysiadol, ac er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blaengaredd a brys wrth ddod o hyd i deuluoedd i blant.
Rydym yn rheoli cronfa ddata’r Gofrestr Fabwysiadu; ar hon cedwir manylion plant sydd angen teuluoedd, a phobl sydd wedi eu cymeradwyo i fabwysiadu. Mae ein tîm profiadol yn nodi plant a darpar fabwysiadwyr y gellid eu paru drwy gysylltu’n rheolaidd ac yn agos ag asiantaethau er mwyn sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cyfle gorau i gael eu paru’n llwyddiannus. Rydym yn chwilio am gysylltiadau i bob plentyn a mabwysiadwr ar ein Cofrestr o leiaf unwaith yr wythnos, drwy ein cronfa ddata paru a thrwy edrych ar broffiliau pob plentyn a mabwysiadwr sydd ar gael. Ar yr un pryd, rydym hefyd yn gweithio’n agos ag Asiantaethau Mabwysiadu, ymarferwyr a mabwysiadwyr. Mae hynny'n cynnwys gwneud cysylltiadau drwy drafod ag ymarferwyr a chynnal gweithgareddau fel Diwrnodau Gweithgareddau Mabwysiadu, Diwrnodau Cyfnewidfa Fabwysiadu a Digwyddiadau Proffilio ar-lein.
Mae Cyfarwyddiadau Deddf Mabwysiadu a Phlant, 2002 (Trefniadau Mabwysiadu ar y Cyd) (Cymru) (Diwygiad) 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod Lleol ac Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol roi manylion plant a mabwysiadwyr i Gofrestr Fabwysiadu Cymru o fewn un mis i’r dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol ei awdurdodi i drefnu i blentyn gael ei fabwysiadu, neu o fewn un mis wedi i’r mabwysiadwr gael ei gymeradwyo.
Mae gwasanaeth Cofrestr Mabwysiadu wedi cael ei gynnig yng Nghymru ers 2014, er mwyn ehangu'r gronfa o ddarpar fabwysiadwyr o blant sydd angen cael eu mabwysiadu, pan nad yw'r awdurdod lleol wedi gallu eu gosod yn lleol.
Yn 2015, comisiynwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i gynnal cofrestr fabwysiadu ar ran Llywodraeth Cymru.
Lansiwyd Cofrestr Fabwysiadu Cymru ym mis Mehefin 2019, a ddisodlodd Cofrestr Fabwysiadu flaenorol Cymru. Mae Cofrestr Mabwysiadu Cymru yn defnyddio Link Maker, system ar-lein ddiogel sydd yn ddwyieithog sy’n caniatau mynediad uniongyrchol i fabwysiadwyr. Nod y Gofrestr yw dod o hyd i barau addas i blant a chynlluniau mabwysiadu a lleihau eu hamser aros.
Rydym yn cynnal amrediad o weithgareddau i baru teuluoedd â phlant. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd i ddarpar fabwysiadwyr i fod yn fwy rhagweithiol ac maent yn cynnig gwybodaeth yn uniongyrchol i fabwysiadwyr am blant sy'n aros i gael eu paru. Rydym hefyd yn gweithio gydag asiantaethau mabwysiadu i ddarparu canllawiau arfer gorau i broffilio plant.
"Rwy’n meddwl bod y diwrnod yn hollol wych, roedd y staff yn hynod gymwynasgar ac yn ymgysyllyu a’r plant mewn ffordd therapiwtig a chyffrous."
Gweithiwr Cymdeithasol,
Diwrnod Gweithgaredd Mabwysiadu 2021
"Yr oedd wrth ei fodd a phob munud ohono – ffordd wirioneddol hyfryd o ddod o hyn i deuluoedd I blant."Gofalwr Maeth, Diwrnod Gweithgaredd Mabwysiadu 2021
"Cawsom amser gwych. Roeddyn bleserus iawn ac roeddem yn gallu gweld personoliaethau’r plant yn wirioneddol"
Mabwysiadwr,
Diwrnod Gweithgaredd Mabwysiadu 2021
"Digwyddiad defnyddiol ac addysgiadol iawn – diolch"
Mabwysiadwr,
Diwrnod Cyfnewidfa Fabwysiadu 2020
"Digwyddiad addysgiadol iawn sy’dd wedi’i drefnu yn dda."
Mabwysiadwr,
Digwyddiad Proffilio ar-lein 2021
"Roeddwn i’n meddwl bod y digwyddiad wedi gweithio’n dda iawn ac wedi darparu dgon o wybodaeth I ni. Roedd yn wych gweld y fideos, clywed wrth y gofalwyr maeth a chlywed wrth y gweithwyr cymdeithasol/darganfuwyd teulu."
Mabwysiadwr,
Digwyddiad Proffilio ar-lein 2021
Rydym yn casglu ystadegau hanfodol mewn perthynas â phlant a mabwysiadwyr yng Nghymru yn unig. Drwy gydweithio o fewn Fframwaith Rheoli Perfformiad Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, mae modd i ni fapio ymarfer a gweithgarwch presennol ym maes mabwysiadu.
Y data trosolwg a'r dadansoddiad o dueddiadau y mae'r Gofrestr yn eu darparu yw sylfaen y gwaith cynllunio strategol ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol. Yn ogystal â chynnwys gwybodaeth ar gyfer ymgyrchoedd marchnata a recriwtio sy’n targedu cynulleidfa, mae hefyd yn ddefnyddiol o ran rheoli adnoddau a chapasiti sydd eu hangen er mwyn sicrhau gwasanaethau mabwysiadu gydol oes.
Mae staff y Gofrestr yn cynnal ein Llinell Gymorth i Fabwysiadwyr bum diwrnod yr wythnos rhwng 9.00am ac 1.00pm. Mae modd i'r sawl sy’n cysylltu y tu allan i’r oriau hynny adael neges lais, a chânt ymateb y diwrnod gwaith nesaf.
029 2087 3799 yw'r rhif ffôn.
Mae Cofrestr Fabwysiadu Cymru yn trefnu cymaint o gyfleoedd â phosibl i blant a darparwyr fabwysiadwyr drwy gyfeirio at Gofrestrau eraill yn y DU pan fo hynny'n briodol, drwy’r Protocol Cyfeirio Rhwng Cofrestrau Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, sydd wedi’i ddylunio i alluogi Rheolwyr Cofrestrau pob rhanbarth i dderbyn atgyfeiriadau ac i'w gwneud.
Gofrestr Fabwysiadu Cymru
029 2087 3799
CofrestrMabwysiaduCymru@adoptcymru.com
Cliciwch yma i gael mynediad i’r Gofrestr Fabwysiadu drwy Link Maker.
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again