Adroddir y stori mabwysiadu orau gan y bobl sydd wedi profi’r broses. Ar hyn o bryd mae pobl nad ydynt wedi meddwl am fabwysiadu neu sy’n ystyried mabwysiadu o bosibl ond nad ydynt yn siŵr. Mae angen iddynt glywed eich stori i deimlo, gyda chefnogaeth, y gallen nhw gwblhau stori eu teulu hefyd.

Bydd gan yr Hyrwyddwyr Mabwysiadu rôl bwysig i hybu mabwysiadu trwy rannu sut mae’n newid eu bywydau’n gadarnhaol, y gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i fywydau plant y maent wedi’u mabwysiadu ac annog a rhoi pŵer i bobl eraill i ystyried mabwysiadu gyda meddwl agored.

Bydd Hyrwyddwr Mabwysiadu yn rhannu eu profiadau, helpu pobl eraill i gymryd cam ymlaen a hybu gwasanaethau mabwysiadu. Mae llawer o ffyrdd o adrodd eich stori, beth bynnag rydych yn hyderus amdano, a byddwn wrth law i helpu. Gallech chi gymryd rhan mewn cyfweliad, siarad mewn digwyddiadau (fel yr un rydym yn ei drefnu ar gyfer Wythnos Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Hydref), neu ysgrifennu blogiau ar gyfer ein gwefan.  Byddwn yn parchu eich dewis o ran sut y gellir defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei rhannu a byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd cyn ei defnyddio.

Rydym yn chwilio am fabwysiadwyr a fyddai’n gallu rhoi llais i fabwysiadu ledled Cymru. Cysylltwch â contact@adoptcymru.com fel y gallwn siarad â chi yn fwy.

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again