Blog gwadd gan Phil Hodgson, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

Helo, Phil Hodgson ydw i ac rydw i’n cadeirio Grŵp Ymgynghorol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (GMC).

Yn ystod y deunaw mis diwethaf, rydw i wedi bod yn lwcus a diolchgar iawn i gael cwrdd â mabwysiadwyr, plant sydd wedi’u mabwysiadu a rheolwyr ac ymarferwyd ledled asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, sefydliadau’r sector cyhoeddus a phobl academaidd.

Mae gen i brofiad o waith cymdeithasol yn y sectorau statudol a gwirfoddol.  Ro’n i’n byw yng Nghymru pan y bu i mi gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol ar ddiwedd yr 1970au, ac rwyf wedi gweithio yng Nghymru a Lloegr yn ystod fy ngyrfa.  Rydw i’n byw ym Mannau Brycheiniog ac rydw i’n mwynhau’r cyfle i gerdded a gweithio mewn rhan brydferth iawn o’r Deyrnas Unedig.

Mae’r cyfle i gadeirio’r Grŵp Ymgynghorol GMC a chwrdd ag ystod eang o bobl sydd ynghlwm wrth fabwysiadu wedi amlygu llwyddiannau plant, rhieni a staff proffesiynol yn glir.  Mae hefyd wedi peri i mi ganolbwyntio ar y prif faterion:

–          Mae plant yn siarad am brofiadau positif yn eu teuluoedd wrth fynegi pryderon am fwlio, profiad cyfyngedig ysgolion o ddeall mabwysiadu, mynediad dda at therapi yn gyson pan fo angen, CAMHS, a sicrhau bod gan rieni fynediad at gymorth dibynadwy a sgilgar pan fo angen.

–          Mae rhieni’n falch iawn o’u teulu newydd ac yn mynd ati i egluro cymhlethdodau’r dasg o rianta mewn rhai achosion; ymlyniad, mynediad at gymorth gwaith cymdeithasol sy’n meddu ar lawer o wybodaeth am fabwysiadu, ysgolion yn sensitif ac yn ymwybodol i anghenion plant sydd wedi’u mabwysiadu, mynediad at ystod o wasanaethau iechyd arbenigol o safon.

–          Staff proffesiynol yn ceisio gwella’r gwasanaeth wrth gynnal cryfderau’r system bresennol drwy groesawu newid sy’n canolbwyntio ar ymyriadau rhyngweithiol, hygyrch, o safon dda sy’n rhoi cymorth i oedolion a phlant.

Mae’r GMC wedi llwyddo i gyflwyno newid sydd wedi dangos gwelliant ledled gwasanaethau mabwysiadu.  Fodd bynnag, o wrando ac ystyried profiadau mabwysiadwyr a phlant, ymhlith yr heriau ar gyfer y 12-18 mis nesaf mae:

–          Cymorth ôl-fabwysiadu a gynigir gan sawl asiantaeth; addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac asiantau gwirfoddol sy’n amserol, yn berthnasol ac yn ddeinamig.

–          Mynediad at hyfforddiant a dysgu o safon i fabwysiadwyr, ymarferwyr a’r rheolwyr gyda golwg ar wella’r profiad mabwysiadu.

–          Parhau i ymgysylltu a gwrando ar yr hyn y mae mabwysiadwyr a phlant yn ei ddweud am eu profiad.

–          Gweithio gyda gweithwyr polisi ledled Cymru i gyflawni newid sy’n gwneud gwahaniaeth positif i oedolion a phlant.

 

Blog gwadd – fy mhrofiad yn mabwysiadu plentyn ‘hŷn’

Penderfynais fabwysiadu yn fy nhridegau hwyr. Ar ôl i berthynas hirdymor ddod i ben, cyflwynais gais i fod yn fabwysiadwr sengl. Fel rhan o’r broses asesu gyda’r Gweithiwr Cymdeithasol, gwnaethon ni drafod sut y byddwn i’n ymdopi fel rhiant sengl a siarad am blentyn o ba oedran fyddai fwyaf addas i’m hamgylchiadau. Gan y byddai’n rhaid i mi ddychwelyd i’r gwaith ar ôl fy absenoldeb mabwysiadu, roedden ni’n teimlo y byddai’n dda cael plentyn o oedran ysgol fel y gallwn i ddychwelyd i weithio’n rhan amser heb drefnu gofal plant. Cefais fy nghymeradwyo ar gyfer un plentyn 3-8 oed ac roedd fy merch yn bedwar oed pan symudodd i mewn. Gweithiodd yn dda i mi – cymerais 8 mis o absenoldeb mabwysiadu a dychwelyd i weithio’n rhan amser pan ddechreuodd fy merch yn yr ysgol y mis Medi canlynol.

Gwnaethom gwrdd gyntaf ychydig ar ôl ei phen-blwydd yn bedwar, yng nghartref y gofalwr maeth. Edrychodd hi arna i yn swil wrth iddi sefyll ar bwys y gofalwr maeth. Ceisiais feddwl am rywbeth cofiadwy i’w ddweud ar foment mor fawr yn ein bywydau, ond yn y diwedd penderfynais y byddai gwên fawr yn dweud y cyfan. Roedd hi’n llawn hwyl ac yn falch o glywed bod gen i ddwy gath, a gafodd gryn dipyn o sylw yn y llyfr yr oeddwn i wedi’i lunio am fy nghartref a’m teulu.

Newidiodd fy mywyd dros nos pan ddaeth fy merch i fyw gyda mi – mewn ffordd dda. Roedd ganddi hi ei phersonoliaeth a’i chymeriad ei hun. Roedd hi’n dipyn o sioc pan ddechreuodd Barbie gymryd drosodd, a llifodd ton o bethau pinc drwy’r tŷ.  Heb fodloni ar yr addurno, dechreuodd Barbie orchfygu fy meddwl hefyd – dysgais bob gair i ‘I’m a Barbie Girl’ a’r rhan fwyaf o’r symudiadau dawnsio. Yn sydyn, newidiodd fy holl flaenoriaethau ac roedd gen i lawer i’w ddysgu, yn bennaf pwysigrwydd siocled, oherwydd roeddwn i nawr yn byw gyda siocoholig go iawn.

Mae pedwar yn oedran hyfryd – mae plant yn gwneud a dweud llawer o bethau doniol. Roedd hi’n clebran yn ddiddiwedd ac roedd hi’n wers anodd ceisio ateb y cwestiynau caled yna y mae plant yn hoff o’u gofyn. Cododd cwestiynau anodd fel ‘Mam, yw malwod yn hoffi taranau?’ a llawer o gwestiynau am dylwyth teg. Pan oedd hi allan ar ei beic un dydd, edrychodd hi fyny ata i a dweud ‘Rwy’n un bach annwyl yn dydw i?’ Roedd hi’n llygad ei lle! Mae cymaint o bethau i’w trysori, fel ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol, ei thro cyntaf yn reidio beic heb yr olwynion bach, ei thro cyntaf yn nofio lled pwll nofio, ac ati.

Yn ystod ein 8 mis cyntaf gyda’n gilydd, fe dreulion ni lawer o amser yn gwylio ffilmiau (mae The Wizard of Oz yn ffefryn o hyd), yn gwneud pethau allan o does, yn mynd i ddosbarthiadau dawnsio, ac yn ymweld â’r parc a’r pwll nofio. Llond byd o hwyl a sbri. Fe wnes i fwynhau bod gyda phlentyn pedwar oed oherwydd roedd hi’n dysgu cymaint, ac roedd ganddi gymaint o bethau newydd i’w profi o hyd. Pan ddechreuodd fy merch yn yr ysgol, dychwelais i’r gwaith yn rhan amser ac fe wnaethon ni ymdopi’n dda, er, fel y rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio bu’n rhaid i mi feddwl yn ddwys am sut i reoli gwyliau ysgol a salwch annisgwyl.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae fy merch yn ei harddegau – yn siocoholig o hyd sydd erbyn hyn yn gallu cyrraedd y siocled cudd yn y cwpwrdd ucha’! Mae’r tŷ’n llai pinc. Nid yw hi’n gallu cofio bywyd cyn Instagram. Wrth gwrs, mae rhai heriau o hyd – gorfod codi cyn 1pm a delio â’r embaras mae eich rhieni yn ei achosi.

Mae pethau wedi newid ers i mi gwrdd â’m gŵr ac mae gennym ni deulu mwy o lawer erbyn hyn. Mae gen i dri llys-blentyn sy’n oedolion, ac rydw i ar fin dod yn fam-gu am y tro cyntaf. Rwy’n edrych ‘mlaen at gael babi yn y teulu i wneud ffws ohono, ond o ran fy mhrofiad fy hun o ddod yn fam i blentyn pedwar oed, ni fydden i’n newid unrhyw beth.

Y newyddion diweddaraf gan Suzanne

logo

 

Ers y blog diwethaf, cyrhaeddwyd carreg filltir; mae elfennau canolog NAS wedi bod ar waith ers 6 mis. Gwnaeth hynny, a fersiwn ddrafft yr Adroddiad Blynyddol, i mi feddwl am sut mae pethau’n mynd……..

 

Mae’n mynd yn dda, dwi’n meddwl………. dyna dwi’n tueddu i ateb…….. ond mae’n anodd dweud!  Mae pawb yn brysur iawn, ond dydy hynny ddim bob amser yn arwain at lwyddiant. Mae angen i ni weld newidiadau go iawn i fod o fudd i blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n defnyddio gwasanaethau mabwysiadu.  Rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed eich barn, felly rhowch wybod i ni drwy cyswllt@adoptcymru.com

 

Y tro diwethaf, dywedais fod Adoption UK a Grŵp Mabwysiadu After Adoption Talk Adoption wedi rhoi golwg i ni ar y sefyllfa i fabwysiadwyr a phlant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu yng Nghymru.  Mae’r adroddiadau hyn nawr ar ein gwefan yn http://adoptcymru.com/cy/news-and-events neu gan y sefydliadau, os hoffech gael golwg arnynt.  Mae’r gwaith yn chwalu unrhyw fythau am blant a rhieni’n anghytuno – a dweud y gwir maen nhw’n hollol gytûn am y materion sy’n ein hwynebu!  Yn benodol, cymorth mewn / gan wasanaethau addysg ac ysgolion, iechyd emosiynol a lles, hanes bywyd, cysylltiadau ac yn gyffredinol y gallu i fanteisio ar fathau gwahanol o gymorth yn ôl yr angen.  Mae hyn wedi llywio pob un o’n blaenoriaethau.

 

Mae’r adroddiad blynyddol wedi dod â llawer o wybodaeth at ei gilydd, gan gynnwys beth mae mabwysiadwyr a phlant a phobl ifanc wedi dweud wrthym, beth rydyn ni wedi’i gyflawni a data o flwyddyn gyntaf Fframwaith Mesur Perfformiad y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.  Bydd fersiwn symlach a byrrach ar gael hefyd.  Mae newyddion da iawn ynddo a chadarnhad o’r newidiadau mawr sydd angen eu gwneud.  Mae ynddo hefyd gynllun am y flwyddyn i ddod a rhai targedau.  Caiff ei gyhoeddi fis yma, felly cadwch lygad allan amdano yn Newyddion a Digwyddiadau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y newyddion diweddaraf gan Suzanne

Ddechrau’r mis daethom yn ôl i’r gwaith ar ôl gwyliau’r Pasg ac roedd hi mor hyfryd gweld y tywydd braf yn parhau, hyd yn oed os mai dim ond drwy ffenestr y swyddfa oedd hynny! Mae’r boreau golau, i mi, yn golygu y gallaf gerdded ar y traeth gyda’r ci cyn mynd i’r gwaith – dyma’r ffordd berffaith o ddechrau’r diwrnod hyd yn oed os yw’n golygu codi o’r gwely am 6am.
Rydyn ni wedi cymryd cyfrifoldeb am ein cyfrifon Facebook a Twitter y mis hwn; mae Brighter Comms wedi bod yn gwneud gwaith ardderchog dros yr ychydig fisoedd diwethaf ond rydyn ni, wel, Martina yn bennaf, yn ceisio sicrhau digon o weithgarwch ac ymgysylltu. Yn bersonol mae’r hyfforddiant a gawsom gan Gwyneth o Brighter Comms yn ddiweddar wedi helpu’n fawr gyda fy nghyflwyniad i fyd y cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni @nas_cymru
Y mis hwn roeddem yn falch iawn o weld Mr Phil Hodgson yn dechrau ar ei waith fel cadeirydd annibynnol ein grŵp ymgynghorol. Rydym yn edrych ymlaen at gael budd o’i brofiad a’i frwdfrydedd helaeth. Hoffem ddiolch hefyd i Naomi Alleyne, o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, am ei chymorth yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd Dros Dro. Bydd ein Bwrdd Llywodraethu yn cyfarfod am yr eildro ar ddiwedd mis Ebrill ac felly bydd yn dda gweld y ddau yn bresennol.
Rydw i hefyd yn falch iawn o fod wedi cael adroddiadau gan Adoption UK a Grŵp TALKadoption After Adoption yn cynnwys y newyddion diweddaraf am y materion sy’n effeithio ar fabwysiadwyr a phobl ifanc a fabwysiadwyd yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad hwn; mae’r adroddiadau yn ddiddorol dros ben ac mae’r bobl ifanc wedi cynhyrchu ffilm fer yn ogystal, sy’n wych! Mae llawer o bethau pwysig i ni eu hystyried wrth gynllunio i wella gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Mae rhai awgrymiadau da iawn wedi dod i law gan fabwysiadwyr a phobl ifanc ynglŷn â sut y gallwn barhau i’w cynnwys dros amser. Rydym yn bwriadu cynnwys mwy am hyn y tro nesaf.
Hoffem ddiolch unwaith eto i ‘Buffoon’, y cwmni ffilm, ac i’r amrywiaeth o bobl, boed yn fabwysiadwyr ac yn weithwyr proffesiynol, a gytunodd i gael eu ffilmio fel y gallwn sicrhau bod gennym ragor o astudiaethau achos i’w rhoi ar ein gwefan. Rydym wrth ein bodd gyda’r rhain a chyn bo hir bydd modd i chi eu gweld ar www.adoptcymru.com.
Mae gŵyl y banc arall ar ddiwedd y mis hwn – mwynhewch Galan Mai, gan obeithio y bydd y tywydd yn para….

GMC Cynhadledd Staff 1af “Cyflawni mwy gyda’n gilydd”

Cynhaliodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ei gynhadledd staff gyntaf ar 24 Mawrth, 2015.Gwelodd y gynhadledd cynrychiolwyr o bob cydweithredol rhanbarthol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol dod at ei gilydd am y tro cyntaf fel Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

Dywedodd Suzanne Griffiths , Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol y gynhadledd y dull gwirioneddol gydweithredol sy’n cael eu cymryd i wella gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru; nodau yn glir , ac mae’r gwaith yn beginnning .

Roedd y gynhadledd Atgoffwyd yr ymchwil CASCADE sy’n cael ei wneud ar brofiadau teuluoedd sy’n mabwysiadu yng Nghymru .

Os hoffech chi gymryd rhan , cliciwch isod.

http://sites.cardiff.ac.uk/adoptioncohort/research/

I gael rhagor o wybodaeth am y broses fabwysiadu , cliciwch isod .
http://www.adoptcymru.com

Lleisiau Mabwysiadwyr Cymru

Wrth i waith y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ddechrau, gyda’r nod o recriwtio rhagor o fabwysiadwyr a gwella gwasanaethau cymorth i fabwysiadwyr, rydym yn awyddus i glywed gan rieni sy’n mabwysiadu yng Nghymru.

Mae Adoption UK mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi paratoi arolwg i ymgynghori â rhieni sy’n mabwysiadu ynghylch eu blaenoriaethau a sut y gallai mabwysiadwyr ddymuno ymwneud â’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn y dyfodol.

Byddem yn ddiolchgar iawn petaech yn treulio ychydig funudau yn ateb y cwestiynau sy’n berthnasol i chi.

https://www.surveymonkey.com/s/llais

 

Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

 

Mae gwasanaeth mabwysiadu newydd Cymru wedi penodi tîm canolog i arwain y corff cenedlaethol.

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi penodi Suzanne Griffiths yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau, Wendy Carroll yn Rheolwr Busnes a Pherfformiad, Martina McCrossan yn Swyddog Polisi ac Ymarfer a Bethan Thomas yn Gynorthwy-ydd Gweinyddol.

Lansiwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2014, a’r nod yw gwella gwasanaethau i’r rhai y mae mabwysiadu’n effeithio arnynt gan gyflymu’r broses fabwysiadu yng Nghymru.

Mae’r gwasanaeth newydd yn cael ei arwain a’i gyflawni gan lywodraeth leol, yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol, ac mae’n rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru i weddnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yng Nghymru.

Suzanne Griffiths, sydd â dros 25 mlynedd o brofiad ym maes gwaith cymdeithasol, fydd yn gyfrifol am arwain a datblygu gwasanaethau mabwysiadu ledled Cymru, i geisio sicrhau gwasanaethau sy’n ymateb mewn ffordd gyson, a sicrhau bod y gwasanaeth yn gwella.

Dywedodd Suzanne:

“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau’r gwasanaeth. Gan fod y tîm canolog bellach wedi’i benodi, gallwn fwrw ati i sicrhau newid cadarnhaol ym mhob rhan o’r sector yng Nghymru.Drwy ddod â gwasanaethau mabwysiadu ynghyd ledled Cymru gallwn sicrhau gwasanaethau mabwysiadu gwell a mwy cyson i blant, darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr cymeradwy, yn ogystal ag oedolion a phlant eraill yr effeithir arnynt gan fabwysiadu.”

Cyn y rôl hon, Suzanne oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a chyn hynny bu’n Bennaeth Gwasanaethau Plant y cyngor.

Mae gan Suzanne radd a chymhwyster meistr mewn Gweinyddu Cymdeithasol a Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus, ac mae wedi rheoli gwasanaethau mabwysiadu yn nhri o awdurdodau lleol Cymru yn ystod ei gyrfa.

Mae gan Wendy Carroll dros 30 mlynedd o brofiad o gynnig cymorth busnes yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd ei rôl yn arwain at weithredu a chydlynu’r fframwaith perfformiad cenedlaethol ledled Cymru, a fydd yn monitro mabwysiadu yng ngwasanaethau awdurdodau lleol ac asiantaethau gwirfoddol.

Yn flaenorol, bu Martina McCrossan, Swyddog Polisi ac Ymarfer newydd y gwasanaeth, yn Rheolwr ar y Tîm Mabwysiadu yn Nhîm Mabwysiadu Caerdydd. Mae gan Martina dros ddeuddeg mlynedd o brofiad yn y gwasanaethau mabwysiadu a chymhwysodd yn weithiwr cymdeithasol ym 1997. Ei rôl newydd fydd llunio polisïau Cymru gyfan i brif ffrydio gwasanaethau mabwysiadu ar draws rhanbarthau.

Mae Bethan yn weinyddwraig brofiadol sydd wedi gweithio yn y sector addysg. Ei rôl fydd cynnig system gymorth gadarn i’r tîm a’r gwasanaeth cenedlaethol.

Ychwanegodd Suzanne:

“Rydym wrth ein bodd o fod wedi penodi Wendy, Martina a Bethan sydd gyda’i gilydd yn dod â dros hanner canrif o brofiad perthnasol i’r gwasanaeth. Fel tîm rydym am ganolbwyntio ar wella’r broses fabwysiadu’n sylweddol i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth.”

 

 

Y Nadolig a Mabwysiadu

Mae’r Nadolig yn gallu bod yn amser difyr a chyffrous! Partïon Nadolig, y sioe Nadolig, cyfri’r dyddiau nes daw Siôn Corn ac wrth gwrs yr holl siocled ‘na! . I rieni mae’n golygu siopa, coginio, croesawu pobl i’r tŷ a threulio amser gyda theulu a ffrindiau. Mae cymaint i’w wneud! Ond gall hyn oll fod yn anodd i rai plant sydd wedi’u mabwysiadu oherwydd mae’n bosib bod ganddyn nhw atgofion gwahanol am yr adeg hon o’r flwyddyn.
Mae Adoption UK, gan ddefnyddio profiadau rhieni mabwysiadol eu hunain, wedi paratoi gwybodaeth i’ch helpu chi a’ch plentyn adeg y Nadolig. Un o’u negeseuon pwysicaf yw “ceisiwch sicrhau fod popeth yn syml a chyfarwydd”. Dilynwch y ddolen isod i ddarllen mwy o gyngor gan rieni mabwysiadol.
 http://www.adoptionuk.org/resources?category=&tagging%5B%5D=14