Sut rwyt ti’n teimlo am y ffaith dy fod ti wedi dy fabwysiadu?


“Dydy’r ffaith fy mod i wedi fy mabwysiadu’n golygu fawr ddim i mi. Pum mlynedd ar hugain fy mywyd sy'n bwysig, ynghyd â'r gofal, y cariad a'r gefnogaeth y ces i gan ddau berson sy'n fy ngharu i, a'r cariad rydw innau'n rhannu â nhw."


Beth yw dy atgofion cyntaf o dy deulu mabwysiadol?


Mabwysiadwyd fi o’m geni felly does gen i ddim cof o'r mabwysiadu, ond mae gen i atgofion melys iawn o'm magwraeth yn ne Cymru. Does gen i ddim atgof cyntaf amlwg o fy nheulu mabwysiadol, ond, yn ddiddorol, 'dw i'n cofio fy nghefnder yn fy nal uwchben cacen fy mhen-blwydd yn un oed a oedd yn siâp rhif 1; ac roedd fy nheulu o'm cwmpas.
 

Sut oedd dy berthynas â dy rieni?


Dwi’n hynod ffodus a breintiedig fy mod wedi fy magu gan rieni sy’n fy ngharu. Fy rhieni yw fy rhieni, ers erioed ac am byth. Yn bersonol, ystyriais i erioed fy rhieni fel ‘rhieni a'm mabwysiadodd’ a chyfeiriais i erioed at fy rhieni biolegol fel fy rhieni ‘go iawn’.


Sut y cest ti wybod dy fod wedi dy fabwysiadu?


Roeddwn i’n gwybod hyn wrth dyfu, ac mae gen i ryw frith gof o’m rhieni’n defnyddio brawddegau fel “pan gawsom ni ti”, neu weithiau, “pan roddwyd ti i ni” er mwyn egluro’r mabwysiadu. Roedd fy rhieni'n mynegi emosiynau cadarnhaol o lawenydd ar ôl y brawddegau hyn, ac roedd hyn bob tro'n cadarnhau i mi eu bod nhw'n fy ngharu.  Wrth i mi dyfu’n hŷn, roeddwn i’n gallu deall “mabwysiadu” yn well, ac yn naturiol, dechreuais i holi. Roedd fy rhieni bob tro’n agored a dywedon nhw gymaint ag y gwyddon nhw am y broses o fabwysiadu yn ogystal ag amgylchiadau penodol fy mabwysiadu i. Bu’r testun yn agored yn fy nheulu estynedig erioed; roedd hyn yn benderfyniad gan fy rhieni er mwyn gwneud mabwysiadu'n rhywbeth agored a chadarnhaol. Daeth fy mabwysiadu’n rhan o’r person yr ydw i, ond dydy hynny erioed wedi fy lliwio.

 

Wyt ti erioed wedi teimlo’n wahanol oherwydd dy fabwysiadu?


Drwy gydol fy mywyd, bûm i’n agored ynghylch fy mabwysiadu gyda’m ffrindiau, ac unrhyw un arall. Rydw i bob tro wedi cael yr ymatebion yn ddiddorol; byddai pobl yn gofyn pethau fel: “Sut rwyt ti’n teimlo am hynny?”, neu “wyt ti’n siŵr nad oes ots gen ti sôn am y peth?”, a hyd yn oed “wyt ti’n ‘nabod dy rieni ‘go iawn’?”.  A’r ymateb mwyaf diddorol dwi’n ei gael yw: “o, mae’n ddrwg gen i”.  Er mwyn ateb, rydw i bob tro wedi ceisio egluro mai'r ddau a'm magodd yw fy rhieni go iawn, ac na ddylai unrhyw un deimlo'n "ddrwg" drosof fi gan fy mod wedi fy mabwysiadu oherwydd fy mod i'n teimlo'n ffodus o gael bywyd mor hyfryd gyda dau riant arbennig.

 

Oeddet ti erioed eisiau dod o hyd i dy rieni biolegol?


Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, dwi wedi dod o hyd i rai aelodau o’m teulu biolegol. Rydw i wedi ceisio bod mor agored â phosib gyda fy rhieni am hyn, ac maen nhw’n deall mai fy chwilfrydedd i fel person sy’n fy ysgogi. Maen nhw wedi gwybod erioed y buaswn i’n chwilio rhyw ddydd, ac rydym ni wedi trafod y peth. Wrth gwrs eu bod nhw wedi teimlo’n emosiynol, pryderus, amddiffynnol ac yn y blaen, ond maen nhw hefyd yn gwybod fy mod i’n eu caru nhw ac na all unrhyw un gymryd eu lle nhw.

Wyt ti’n credu bod cael dy fabwysiadu wedi gwneud gwahaniaeth i dy fywyd?


Mae gen i berthynas gref, gariadus â’m rhieni ac maen nhw’n fy nghefnogi; dwi’n ystyried fy hun yn ffodus bob dydd fy mod wedi fy mabwysiadu. Fuaswn i ddim yn newid fy mywyd am unrhyw beth.

“Dydy’r term mabwysiadu’n golygu dim i mi; y bywyd a ges i gan fy rhieni sy’n bwysig. Mam a dad, dwi'n eich caru chi."

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again