Cynhelir Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2018 rhwng y 15fed a’r 21ain o Hydref. 

 

Bydd yr wythnos yn dathlu popeth sy’n wych am fabwysiadu i annog mwy o bobl i fabwysiadu a helpu plant i ddod o hyd i deulu parhaol.

 

Sut i gymryd rhan?

Os ydych chi’n fabwysiadwr neu’n fabwysiedig, rydym am glywed oddi wrthych.

Beth yw’r peth gorau am fabwysiadu?

Beth ydych chi’n ei wybod nawr a fyddai wedi eich helpu bryd hynny?

Pam taw mabwysiadu oedd y dewis cywir i chi?

 

Rhannwch eich straeon ar y cyfryngau cymdeithasol a thagiwch @nas_cymru #CefnogiMabwysiadu neu e-bostiwch nas@wearecowshed.co.ukfor am fwy o ffyrdd o gymryd rhan.

 

Rhannwch eich cefnogaeth

Cymerwch hun-lun gyda’n placard #CefnogiMabwysiadu. Printiwch y placard a thynnwch lun!

Neu yn syml, lawrlwythwch y gif defnyddiol hwn.

 

Cofiwch rannu popeth gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gyda @nas_cymru #CefnogiMabwysiadu

 

Dysgwch fwy

Dewch i ddigwyddiad

 

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, cysylltwch â’ch asiantaeth fabwysiadu leol.

 

Dyma’ch cyfle i fod yn rhan o rywbeth sy’n taro goleuni ar fabwysiadu i helpu i ddod o hyd i gartref i’r plant hynny sydd angen un yn ddirfawr.

 

Os ydych chi’n byw yn Lloegr ewch i First4Adoption i weld eu gweithgareddau ar gyfer yr Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol.

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again