Mae'r deunyddiau hyn wedi'u datblygu ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Eu diben yw darparu adnodd dysgu a datblygu i fabwysiadwyr ar ôl i blentyn gael ei leoli. Mae'r modiwlau hyn wedi'u cynllunio'n benodol i fod yn hawdd eu deall ac mewn fformat y gellir ei addasu at wahanol ddibenion. Fodd bynnag, os bydd rhywun am ddefnyddio'r deunydd hwn rhaid iddynt ei gadw’n 'driw i'r cysyniad gwreiddiol'. Ni ddylid newid cynnwys y sleidiau gan ei bod yn bwysig bod yr wybodaeth a amlinellir yn y modiwlau yn parhau’n gyson hyd yn oed os caiff y broses o gyflwyno'r hyfforddiant ei haddasu i ddiwallu gwahanol anghenion.

 

CEFNDIR A DIBEN

 

Rydym yn gwybod bod dod yn rhiant yn gyffrous, yn werthfawr ac yn ddifyr. Rydym hefyd yn gwybod y gall pob rhiant elwa ar wybodaeth a mewnwelediad ychwanegol i'w helpu ar eu taith.  Bydd darpar fabwysiadwyr wedi cael rhywfaint o hyfforddiant yn ystod y cam asesu a fydd wedi cwmpasu agweddau ar y theori a'r prosesau sy'n sail i fabwysiadu.

Nid yw ein dysgu byth yn dod i ben ac mae pobl yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. O ystyried hyn mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ar y cyd ag AFA Cymru ac Adoption UK, ac mewn ymgynghoriad ag ymarferwyr mabwysiadu a mabwysiadwyr, wedi datblygu nifer o fodiwlau sy'n cwmpasu rhai agweddau allweddol a fydd, gobeithio, yn ddefnyddiol. Bwriad y rhain yw helpu a chefnogi mabwysiadwyr i gyfuno dealltwriaeth o'r hyn y mae angen iddynt ei wybod a'r sgiliau y mae eu hangen arnynt i ddatblygu a pharhau i wella eu perthynas â'u plentyn.

Bwriedir iddynt fod ar gael i bobl ar bob adeg, nid pan fyddant yn cael trafferth yn unig, a’n gobaith yw y byddant yn ysbrydoli ac yn bleserus yn ogystal â bod yn addysgol.

Beth sydd angen i chi ei wybod cyn i chi ddechrau


Mae'n bwysig eich bod yn ystyried nifer o ffactorau cyn i chi ddechrau edrych ar yr wybodaeth hon:

Mae angen i chi neilltuo digon o amser i fynd trwy fodiwl cyflawn; yn ddelfrydol, dylech osgoi unrhyw darfu a bod yn gallu cymryd peth amser i ystyried beth rydych wedi'i ddysgu. Dylech neilltuo o leiaf awr ar gyfer bob un.

Os ydych yn fabwysiadwr, gwnewch yn siŵr fod rhywun gyda chi a all eich cefnogi os oes ei angen arnoch. Gall rhywfaint o'r deunydd wneud i chi deimlo'n anghyfforddus neu hyd yn oed yn bryderus, felly ni ddylech ei ddarllen ar eich pen eich hun.

Dylech allu cysylltu â rhywun sy'n brofiadol ym maes mabwysiadu rhag ofn y bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.  Os nad oes rhywun ar gael, gallwch gysylltu â'ch gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol, Adoption UK neu AFA.

 

Canllaw Hyfforddiant Mabwysiadwyr Ôl-gymeradwyaeth

Cliciwch yma

Modiwlau Hyfforddiant Mabwysiadu Ôl-gymeradwyaeth

 

Y ffordd orau o ddarllen y modiwlau yw fel y nodir isod. Mae llawer o wybodaeth ym mhob modiwl felly rhowch ddigon o amser i chi eich hun fynd drwyddynt. Bydd pob modiwl yn cymryd o leiaf awr i weithio trwyddo gan fod y nodiadau mewn rhai modiwlau yn fwy helaeth. Mae yna hefyd ymarferion sydd wedi'u cynllunio i'w defnyddio mewn gwaith grลตp ond efallai y bydd rhai ohonyn nhw'n ddefnyddiol i'w rhoi ar waith.

 

Bydd gofyn i chi agor pob modiwl fel ‘Darllen yn Unig’.
Bydd angen i chi roi’r dolenni yn y nodiadau yn eich porwr. 

 

Os oes gennych unrhyw adborth am y modiwlau neu unrhyw argymhellion am wybodaeth ychwanegol cysylltwch â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol drwy e-bostio:- contact@adoptcymru.com


 

                            

Cam 1

1. Materion Iechyd a Datblygiad mewn Plant sydd wedi cael eu mabwysiadu

2. Ymlyniad

3. Cymryd rhan

4. Cyfreithiol

 

Cam 2

5. Cyswllt

6. Gwaith Taith Bywyd

7. Trawsnewidiadau

8. Gofalu amdanoch chi eich hun

 

Cam 3

9. Anhwylderau Ffetysol y Sbectrwm Alcohol

10. Rhianta ein Harddegwyr

11. Byw gydag Ymddygiad Heriol

12. Cyflwyniad i Wrthwynebedd Di-drais ar gyfer delio gyda Thrais Plentyn i Riant

 

 

 

 

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again