Cynhelir Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yng Nghymru rhwng 12fed a 18fed Hydref 2020.
Eleni rydyn ni'n cael sgwrs dda - gyda mabwysiadwyr, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd am eu straeon, eu profiadau a'u cwestiynau mabwysiadu.
Gallwch ymuno â’r sgyrsiau trwy fynychu un o’n digwyddiadau gweminar dros ginio am ddim a gwrando ar bodlediad mabwysiadu cyntaf Cymru - ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Un o'r ffyrdd gorau o ddarganfod mwy am fabwysiadu yw clywed gan bobl sydd wedi bod yno a'i wneud. Yn y gyfres gyntaf o'n podlediad Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu, mae grŵp o fabwysiadwyr o bob rhan o Gymru yn rhannu eu profiadau â'i gilydd - o'r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu.
Y cyntaf o chwe phennod a ryddhawyd ddydd Mercher 14eg Hydref
Ar gael yn Gymraeg a Saesneg
Dewch i gwrdd â rhai o'r teuluoedd o'n podlediad Dweud y gwir yn blaen: Straeon mabwysiadu. Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y recordiad podlediad ond o fewn eiliadau roedd fel gwrando ar hen ffrindiau'n siarad. Roedden nhw'n chwerthin gyda'i gilydd, redden nhw’n crio gyda'i gilydd. Nawr gallwch chi ddod i'w hadnabod hefyd.
Mewn partneriaeth â Pride Cymru, dewch i gwrdd ag aelodau o'r gymuned LHDTC+ sydd wedi cael eu paru'n llwyddiannus trwy'r broses fabwysiadu. Mae'r sesiwn hefyd yn cynnwys cyngor gan Gymdeithas Plant Dewi Sant, sydd â chyfradd fabwysiadu gyda mabwysiadwyr LHDTC+ yn uwch na chyfartaledd y DU.
Dewch i glywed eu cynghorion, straeon gonest, a'u hatebion i gwestiynau cyffredinol.
Rydym yn archwilio'r broses fabwysiadu yng Nghymru, y rôl y mae iaith yn ei chwarae mewn teuluoedd, ac yn cyfeirio at adnoddau mabwysiadu a chefnogaeth sydd ar gael yn Gymraeg. Bydd y panel yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol a phobl sy'n Gymraeg iaith gyntaf sydd wedi bod yn llwyddiannus trwy'r broses fabwysiadu.
Os ydych chi'n cymryd rhan yn unrhyw un o'r digwyddiadau - rhowch wybod i ni a ydyn nhw wedi ennyn unrhyw ddiddordeb neu gwestiynau pellach ynghylch mabwysiadu i chi.
Siaradwch â ni @nas_cymru #MabwysiaduDanSylw #WythnosGenedlaetholMabwysiadu
Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am fabwysiadu, cysylltwch â’ch asiantaeth fabwysiadu leol.
Os ydych chi'n byw yn Lloegr ewch i First4Adoption i gael eu gweithgaredd Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu.
Os ydych chi'n byw yn yr Alban, ewch i Adoption in Scotland, ar gyfer eu gweithgaredd Wythnos Mabwysiadu a gynhelir 16 - 20 Tachwedd.
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again