Amanda a Martin

Mabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd

Gyda chariad yn eu calonnau a lle yn eu cartref, mabwysiadodd Amanda a Martin eu merch Ellen*, sydd bellach yn 12, bum mlynedd yn ôl. Pan gyfarfu’r cwpl, sy’n byw yn ne Cymru, ag Ellen am y tro cyntaf roedd hi’n dal mewn cewynnau yn saith oed, erioed wedi cael llyfr wedi’i ddarllen iddi, yn arfer rhewi wrth glywed sŵn uchel ac yn cuddio y tu ôl i’r soffa pryd bynnag y byddai hi yn teimlo ofn - ond er gwaethaf ei hanghenion cymhleth, roedd Amanda a Martin yn gwybod o'r eiliad y gwnaethant ddarllen am stori Ellen mai eu merch nhw oedd hi.

 


Dyma eu stori nhw…

 

“Fe wnes i a fy ngŵr gyfarfod yn weddol hwyr mewn bywyd. Roeddwn wedi ysgaru ac roedd fy mhlant yn hŷn, ond roedd gennym gariad yn ein calonnau a lle yn ein cartref - ac roeddem yn gwybod ein bod am fod yn deulu.

 

“Ar ôl gwylio rhaglen deledu yn amlinellu'r angen am gartrefi am byth i blant mewn gofal, fe benderfynon ni fabwysiadu. Wnaethon ni ddim ymuno â'r broses fabwysiadu â chwarae bach. Roeddwn i'n gwybod bod y plant hyn o bosib wedi cael eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu efallai bod cyffuriau neu alcohol wedi bod yn gysylltiedig. Roeddwn i'n gwybod pa mor anodd fyddai hynny.

 

“Ni chefais blentyndod gwych, ond rwy’n fam wych - ac o dan yr amgylchiadau cywir a chael cyfle, roeddwn yn gwybod y gallai plentyn ffynnu yn ein cartref cariadus.

 

“Fe wnaethon ni ddewis mabwysiadu plentyn hŷn a darllen popeth am ein merch cyn i ni edrych ar lun.

 

“Doeddwn i ddim eisiau teimlo tynfa emosiynol i blentyn bach tlws, llygad-lydan, a meddwl ‘Mae hi’n edrych yn ciwt, awn ni â hi.’ Roeddwn i eisiau gweld beth roedd hi wedi bod drwyddo, clywed am ei hanghenion meddygol a seicolegol - ac ar ôl darllen am Ellen, fe wnaethon ni benderfynu nad oedd unrhyw beth na allen ni ymgymryd ag ef gyda'n gilydd. Wedi hynny, dywedodd y gweithiwr cymdeithasol wrthym mai ni oedd ei chyfle olaf i gael ein mabwysiadu. Ni allaf ddirnad hynny.

“Am saith mlynedd gyntaf bywyd Ellen, ni ddarllenwyd llyfr iddi erioed, roedd yn amddifad o gariad ac fe’i hanfonwyd i’r gwely y rhan fwyaf o nosweithiau heb unrhyw fwyd. Dywedwyd wrthym fod yr holl broblemau hyn ganddi, ond ers bod gyda ni, mae hi wedi blodeuo.

 

“Yr eiliad gyntaf i mi weld Ellen, roedd hi’n cuddio y tu ôl i’r soffa. Roedd hi'n fach iawn, gyda gwallt byr ac ni ddywedodd hi air. Pan ddaeth yn amser i ni adael ar ôl ein cyfarfod cyntaf, fe lefodd y glaw am ei bod mor daer eisiau dod adref gyda ni, i gael ei charu ac i fod yn deulu.

 

“Am ei bywyd cyfan, roedd pawb wedi diystyrru Ellen. Dyna pryd y penderfynodd Martin a minnau cyn i ni hyd yn oed gwrdd â hi ein bod ni'n mynd i fod yn fam ac yn dad iddi.

 

“Rwy’n cofio pan ddaethom â hi adref ac ni allai aros i weld ei hystafell wely. Fe wnaethon ni ei addurno a phrynu gwely caban iddi er mwyn iddi allu adeiladu ffau oddi tani, gyda golau, llen a theganau cofleidiol i'w helpu i deimlo'n ddiogel. Yn y dyddiau cynnar, pryd bynnag y byddai ofn arni, byddai hi'n cuddio. Hyd heddiw, mae hi'n caru ei hystafell wely - dyna'i hafan.

 

“Bu cymaint o eiliadau emosiynol gyda'n merch. Rwy’n ei chofio yn dweud wrtha i ‘Ti yw fy hoff Mami’ ac roedd meddwl mai fi oedd ei thrydedd (fam) yn fy nhristáu. I Martin, meddai; ‘Ti yw’r Dadi da.’

 

“Un o fy atgofion melysaf oedd mynd ag Ellen i weld Matilda’r sioe gerdd yn Llundain. Gwyliodd y perfformiad cyfan yn sefyll yn ei sedd, yn gegrwth. Dwi ddim yn meddwl y gallai hi gredu'r hyn roedd hi'n ei weld - roedd fel ein bod ni wedi mynd â hi i fyd arall.

 

“Wrth gwrs, fel unrhyw riant rydyn ni wedi gwneud camgymeriadau. Fe aethon ni â hi i lan y môr ar ôl iddi fod gyda ni ychydig wythnosau yn unig. Roedd hi wedi gor-gyffroi cymaint nes iddi syrthio drosodd. Sgrechiodd Ellen fel petai’n cael ei llofruddio ac roedd hi’n gwrthod symud. Yn y diwedd, roedd yn rhaid i mi ei chario yn ôl i'r car a mynd yn syth adref. Roedd yn rhy llethol iddi a daeth yn ôl â'i holl ofnau.

 

“Ar y dechrau, roedd yn rhaid i mi ei chario i bobman, roedd hi angen cael ei dal. Roedd maes chwarae i lawr y ffordd o'n tŷ ac rwy’n cofio bob dydd am chwe mis roedd hi'n mynnu cael reid ar y siglen babi. Hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach, mae hi wedi gwasgu ei hun ar y siglen fach fach honno - roedd hi bron fel pe bai hi'n chwennych y plentyndod yr oedd hi wedi colli allan arno.

 

“Rwy’n cofio’r tro cyntaf iddi fy ngalw’n Mam. Cymerodd dri mis iddi sibrwd y geiriau. Bob bore roedd hi'n arfer curo ar wal yr ystafell wely i adael i ni wybod ei bod hi'n effro - rwy'n credu bod yn rhaid iddi wneud hynny yn ei chartref blaenorol. Un diwrnod, roedd hi'n sâl yn y gwely, a gallwn glywed y curo bach ar y wal a llais bach yn sibrwd 'Mam.' Torrodd fy nghalon i feddwl yn ei chartrefi blaenorol bod yn rhaid iddi ddelio â salwch ar ei phen ei hun, yn rhy ofnus i ddweud unrhyw un. Roedd yn arwydd bach ei bod yn dechrau ymddiried ynof.

 

“Nid oes gan fy ngŵr a minnau lawer o arian - ond pan wnaethom fabwysiadu ein merch gyntaf, prynais yr holl gotiau duffel drud hardd hyn i’w chadw’n gynnes yn y gaeaf ac ni fyddai’n eu gwisgo. Roedd yn rhaid i mi dderbyn ei bod wrth ei bodd gyda bling - a dyna hanfod rhianta, derbyn y plentyn sydd gennych chi, y da a’r hyn sydd ddim mor dda. Ni fyddwn yn newid fy merch am y byd.”

 


Rhannwch yr eiliadau a wnaeth eich gwneud yn deulu @nas_cymru #DewisTeulu

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again