Martyn, 35 a Lee, 40

Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin

Nid yw siarad am gael plant a mabwysiadu ar ddêt cyntaf yn iawn i bawb. Ond i Martyn, 35, a Lee 40, gwnaeth y syniad o gychwyn teulu iddyn nhw deimlo'n gyflawn. Mabwysiadodd y cwpl fachgen pump oed trwy Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yn 2018. Dair blynedd yn ddiweddarach, mabwysiadodd y cwpwl fachgen pedair oed.

Dyma stori Martyn a Lee…

“O’n dêt cyntaf un, buom yn trafod cael plant a wastad wedi meddwl am fabwysiadu. Mabwysiadwyd hen famgu Martyn, felly roedd yn ymwybodol ohono wrth dyfu i fyny.

“Fe wnaethon ni benderfynu mabwysiadu plant hŷn oherwydd eu bod nhw'n fwy lleisiol. Maen nhw'n gallu siarad â chi am eu taith bywyd a'r hyn maen nhw wedi bod drwyddo. Pryd bynnag y bydd y plant wedi datgelu unrhyw beth am eu gorffennol, rydym wedi ei ysgrifennu mewn dyddiadur er mwyn i ni allu mynd trwy'r rhain gyda nhw, yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae'n caniatáu i'r plant fod yn agored gyda ni ac mae'n rhywbeth y gallwn edrych yn ôl arno yn y dyfodol a bod yn falch ohono.

“Mae'r ddau blentyn yn agos iawn i ni, yn enwedig ein mab hynaf. Rydyn ni'n gwybod mwy amdano nag y mae unrhyw un arall yn ei wneud oherwydd rydyn ni wedi gallu dogfennu ei daith. Mae wir wedi ei helpu i dyfu fel person.

“Mae ein plant yn ein galw ni’n ‘Dad a Daddy’ ac mae’n deimlad anhygoel. Maen nhw mor falch ohonom ni a byddan nhw'n dweud yn agored mai ni yw eu tadau, hyd yn oed yn yr archfarchnad i'r ariannwr.

“Cyn i ni gwrdd â’n mab hynaf, roedden ni wedi anfon fideos ohonom ein hunain yn dangos ein tŷ iddo. Pan wnaethon ni gyfarfod am y tro cyntaf, fe wnaeth ei ailberfformio a oedd yn emosiynol iawn. Dywedodd wrthym sut yr oedd bob amser eisiau dau gi, cwningen a mochyn cwta ac mae gennym yr anifeiliaid anwes hynny - roedd yn teimlo fel petai i fod. Gyda'n hail blentyn, cynhaliwyd y prosesau cyflwyno ar-lein oherwydd y pandemig. Er ei fod mor wahanol, roedd yn dal i fod yn brofiad emosiynol.

 

“Mae'n syndod gweld faint o blant hŷn sy'n aros i gael eu mabwysiadu. Mae'n rhywbeth rydw i bob amser yn annog pobl i'w wneud. Pan fyddwch chi'n mabwysiadu, rydych chi'n dechrau o'r dechrau am fod pob teulu'n gwneud pethau'n wahanol. Mae yna lawer o brofiadau cyntaf - ac mae'n anhygoel gallu eu dysgu mewn gwahanol ffyrdd. Rydym wedi gallu trafod sut y gallai trawma fod wedi effeithio ar ein plant pan oeddent yn iau sy'n eu helpu i'w goresgyn.

“Mae cymaint o gefnogaeth allan yna i’r rhai sy’n ystyried mabwysiadu. Roedd Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yn anhygoel. Fe wnaethant ein helpu gyda phopeth. Roedd ein gweithiwr cymdeithasol ar gael pryd bynnag yr oedd ei hangen arnom ac nid oes unrhyw gwestiwn erioed wedi bod yn gwestiwn gwirion.

“Nawr, rydyn ni'n gallu cynnig cyngor i'r rhai sy'n edrych i fabwysiadu. Rydym yn aelodau o grwpiau cymorth, gan gynnwys grŵp LGBTQ - ac yn cefnogi pobl eraill sy'n mynd trwy'r un profiad. Rydym yn darllen llyfrau stori plant, sy’n cynnwys rhieni LGBTQ, sy’n helpu i chwalu stigma fel bod pobl yn deall bod ein teulu yr un peth â phawb arall.”

Rhannwch yr eiliadau a wnaeth eich gwneud yn deulu @nas_cymru #DewisTeulu

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again