Croeso i dudalen Gwybodaeth Sefydlogrwydd Cynnar Cymru (SCC)

Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yw’r opsiwn cynllunio gofal sy’n rhoi sylfaen ddiogel i blentyn cyn gynted â phosibl, pan fydd wythnosau a misoedd yn wirioneddol bwysig; gall gefnogi datblygiad iach yr ymennydd ac ymlyniad drwy berthynas ddiogel, rhagweladwy gydag oedolion sensitif, a lleihau'r symudiadau gofidus sy'n achosi trawma pellach.  SCC yw'r term ymbarél a roddir i'r arfer o leoli plant, gyda gofalwyr maeth sydd hefyd wedi'u cymeradwyo fel darpar rieni mabwysiadol.  Mae gofalwr SCC yn cefnogi'r plentyn yn yr un ffordd â gofalwyr maeth prif ffrwd eraill, gan ymgymryd â'r holl dasgau maethu, gan gynnwys hwyluso cyswllt. Os yw cynllun gofal y plentyn yn dod yn gynllun mabwysiadu, mae gofalwyr SCC yn gallu mynd ymlaen i gynnig cartref parhaol hirdymor i'r plentyn hwnnw.

Yng Nghymru, mae SCC yn faes ymarfer cynyddol sy'n seiliedig ar fframwaith SCC.  Mae ein fframwaith cenedlaethol ynghyd â'r holl ddogfennau ategol sydd eu hangen arnoch wrth feddwl am gynllunio gofal ar gael isod.

 

Fframwaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru

Cynhyrchwyd y canllaw arfer da hwn gan AFKA Cymru ar ran y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

 

 

ADNODDAU I WEITHWYR PROFFESIYNOL

Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd rhannu arfer wrth i ni adeiladu ein profiad o weithio o dan fframwaith SCC. Yn yr adran hon mae ystod o wybodaeth sy'n cefnogi dysgu ymarfer o fewn eich gwasanaeth.

WEP Practice learning: Professionals Discussion - YouTube

SCC: Adborth gan weithwyr proffesiynol gwaith cymdeithasol 
Dysgu ymarfer SCC: Trafodaeth Gweithwyr Proffesiynol - YouTube

Ffilmiwyd y cyfweliad hwn ym mis Ebrill 2023, gyda'r nod o rannu peth o'r profiad rheoli achos cyntaf yng Nghymru a gynhaliwyd o fewn Fframwaith SCC. Yn y fideo, byddwch yn clywed myfyrdodau gweithwyr cymdeithasol mabwysiadu, maethu a gofal plant sydd wedi cefnogi plentyn o dan gynllun gofal SCC, gyda gofalwyr SCC Laura a Jonny.  Nod y fideo hwn yw rhoi cipolwg i ymarferwyr a thimau sy’n ystyried datblygu SCC yn eu gwasanaeth. Mae'n cynnig cyfle i glywed drostynt eu hunain yr elfennau cadarnhaol o gefnogi cynllun gofalwyr SCC a'r heriau a allai godi wrth i weithwyr proffesiynol ddechrau gweithredu ymarfer SCC.

 

WEP practice development: Parents Interview - YouTube

Dod yn Ofalwyr SCC 
Datblygu ymarfer SCC: Cyfweliad Rhieni - YouTube

Gofalwyr SCC: Stori Laura a Jonny.  

"roedd yna ansicrwydd, ond roedden ni wir yn gwerthfawrogi'r amser gyda'n mab yn ystod y cyfnodau cyntaf hynny, pan oedd yn profi pethau am y tro cyntaf, a ffurfio bond....roedd hynny o werth mawr i'n mab a'i ymlyniadau o fewn ein teulu."

Yn y fideo hwn byddwch yn clywed gan y rhieni, Laura a Jonny, a ddaeth ymlaen i dyfu eu teulu trwy fabwysiadu ond sy'n dewis gwneud hyn trwy lwybr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru.  Fel rhai o'r gofalwyr cyntaf yng Nghymru i gael eu cymeradwyo o dan Fframwaith SCC, dangosodd Laura a Jonny ymrwymiad cryf i ofalu am eu mab tra bod penderfyniadau'n cael eu gwneud am ei ddyfodol.  Yn y fideo hwn maent yn rhannu eu taith drwy'r broses faethu a mabwysiadu ac yn rhoi eu mewnwelediadau personol o ran y pethau cadarnhaol a'r heriau y mae SCC wedi'u cyflwyno iddyn nhw a'u teulu.

Gofalwyr SCC - Stori SCC Louise a Adam

Mae Louise ac Adam yn rhieni mabwysiadol i ddau fachgen bach gwych, Jack, 3 oed a George, 8 mis oed. Mae eu taith yn unigryw, gan eu bod yn un o'r teuluoedd cyntaf yng Nghymru i gefnogi plentyn drwy Sefydlogrwydd Cynnar Cymru. Mae Louise ac Adam wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu taith, gan roi cipolwg gwerthfawr ar eu profiadau o SCC fel mabwysiadwyr ail dro.


Mae'r adnoddau hyn y gellir eu lawrlwytho yn rhan o Sefydlogrwydd Cynnar Cymru: Fframwaith ar gyfer Ymarfer.

Anogir ymarferwyr i ddefnyddio'r deunyddiau ffynhonnell hyn i gefnogi eu hymarfer. 

Page

Templates

Format

Download link

5

Adran 1

Siart Llif 1:
Trosolwg i Ymarferwyr

pdf

Siart Llif 1

9

Adran 2

Modiwlau wedi’u recordio

 

2a E-module for Practitioners 

https://youtu.be/tGM211yTntk

2b E-module for Adoption and Fostering Panels

https://youtu.be/4EumuC_Tn1I

2c E-module for Judiciary

https://youtu.be/GcWceUz9myI

2d E-module for Family and Friends 

https://youtu.be/5dHK2g2K0ik

10

Siart Llif 2:
Cynllunio Gofal SCC ar gyfer y Plentyn

pdf

Siart Llif 2

15

Adran 3

Atgyfeirio Plentyn

Word template

11. Ffurflen Atgyfeirio Plentyn

18

Adran 4

Paru ar gyfer SCC

Word template

13. Fframwaith Paru

 

14. Tystysgrif Paru

21

Adran 5

Lleoli o dan SCC

Word template

16. Cytundeb Awdurdod Dirprwyedig

 

17. Cytundeb Gofal Maeth

 

18. Cynllun Lleoli

 

23

Adran 6

Recriwtio, Paratoi, Asesu a Chymeradwyo Darpar Fabwysiadwyr

Powerpoint slides

Beth yw SCC.ppt

 

pdf (leaflet)

Gwybodaeth ar gyfer darpar rieni mabwysiadol

26

Siart Llif 3:
Paratoi a Chymeradwyo

 

pdf

Siart Llif 3

 

27

Siart Llif 4:
Cysylltu, Paru a Lleoli

pdf

Siart Llif 4

 

31

Gwybodaeth i Ganolwyr

Word document

24. Gwybodaeth i Ganolwyr

32

Gofalwyr SCC a Chyllid

Word document

25. Gofalwyr SCC a Chyllid

33

Adran 7

Paratoi, Asesu a Chymeradwyo Gofalwyr SCC

Online webinar

Fostering Training webinar
 

36

Adroddiad Atodol ar gyfer y Panel Maethu

Word template

30. Adroddiad Atodol Cymru Gyfan

36

Rhestr Wirio SCC

Word template

31. Rhestr Wirio

 

36

Offeryn Monitro SCC

Word template

32. Offeryn Monitro

37

Adran 8

Gwybodaeth i Rieni

pdf (leaflet)

SCC-Gwybodaeth i Rieni-1

 

pdf (leaflet)

SCC-Gwybodaeth i Rieni-2

 

pdf (leaflet)

SCC-Gwybodaeth i Rieni-3

 

39

Modiwl wedi’u recordio

 

WEP E Module for parents Welsh - YouTube

40

Gwybodaeth i gynrychiolwyr cyfreithiol rhieni

pdf (leaflet)

36 Gwybodaeth i gynrychiolwyr cyfreithiol rhieni

41

Rhestr Wirio Ymarferydd Gofal Plant

Word template

37. Rhestr Wirio Ymarferydd Gofal Plant

42

Adran 9

Pan fydd plentyn yn dychwelyd at ei rieni

Word template

39. Adolygiad Gofalwyr (templed 1)

Word template

40. Llythyr o Ymddiswyddiad

44

Adran 10

Ar ôl penderfyniad

Gorchymyn Lleoli

Word template

42. Adolygiad Gofalwyr (templed 2)

  Adroddiad Atodol Cymru Gyfan Word template Adroddiad Atodol Cymru Gyfan

 

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again