"Rydw i'n dueddol o anghofio fy mod i wedi cael fy mabwysiadu, rydw i wedi cael cymaint o gariad."

 

Sut brofiad oedd bod yn aelod o deulu mabwysiadol?

Wrth dyfu i fyny gyda'm brodyr a chwiorydd doedden ni ddim yn teimlo bod unrhyw wahaniaeth, a does yna ddim gwahaniaeth hyd yn oed heddiw. Rydw i'n caru fy mrawd, rydw i'n caru fy chwaer, rydw i'n caru Mam a Dad, rydyn ni'n caru ein gilydd. Rydyn ni'n deulu agos iawn. Fyddech chi ddim yn gwybod, oni bai drwy edrych arnon ni, nad ydyn ni'n 'perthyn'. Rydyn ni'n perthyn, efallai nad ydyn ni'n perthyn drwy waed ond rydyn ni'n bopeth arall. Mae'n swnio'n rhyfedd, ond dw i'n credu pe na fydden ni wedi bod gyda'r bobl hyn efallai na fyddwn i'r person yr ydw i heddiw. Fe ges i'r un gefnogaeth ac ymrwymiad ganddynt pan ddechreuais i wneud athletau ac y cafodd fy mrawd a’m chwiorydd pan oedden nhw'n tyfu i fyny. Rydw i'n lwcus iawn! Rydw i'n eu caru nhw fel Mam a Thad, does dim gwahaniaeth rhyngon ni ag unrhyw deulu arall.

 

Sut daethoch chi at y teulu?

Roedd David fy mrawd hynaf gan fy rhieni yn barod ac yna dywedwyd wrth Mam na fyddai'n gallu cael rhagor o blant. Roedden nhw eisiau teulu mwy, felly fe fabwysiadon nhw fy chwaer hynaf Sarah ac yna, yn ddramatig, daeth fy mam yn feichiog yn gwbl annisgwyl! Cawson nhw fy chwaer Lucy, ac yna i gadw'r ddysgl yn wastad mabwysiadon nhw fi! Rydw i wastad yn cael hwyl am y peth. Roeddwn i'n arfer dweud mai fi oedd bach y nyth, a phan fyddech chi'n edrych arnon ni o'r hynaf i'r lleiaf y byddech chi'n siŵr o feddwl mor ciwt oedd y bachgen bach yna gyda'i wallt affro angylaidd! Yn ôl yn y saithdegau roedd pobl yn cyfeirio ata i fel ‘plentyn problem’ oherwydd fy mod i'n dod o dras cymysg. Fe roddon nhw'r bywyd yma i fi, na fyddwn i erioed wedi'i gael fel arall, mae'n dangos mor rhyfeddol yw fy rhieni.

 

Fel oedolyn nawr, sut ydych chi'n teimlo am fod wedi cael eich mabwysiadu?

Mae pawb yn gofyn i mi a fyddwn i eisiau gwybod am fy ngorffennol. Rydw i'n dweud na, rydw i eisiau gweld fy nyfodol! Roedd Mam a Dad yno pan oeddwn i yn y Gemau Olympaidd, a phan oeddwn i'n cael helynt yn yr ysgol. Maen nhw wastad wedi bod yno felly doedd dim angen i mi edrych i'r chwith a'r dde. Doedd dim rhaid i mi chwilio o gwbl a dyna'r rheswm pam fy mod wedi cael cymaint o gariad a sylw. Rydw i'n dueddol o anghofio fy mod i wedi cael fy mabwysiadu, dyna faint o gariad y ces i.Doeddwn i ddim eisiau siarad am gael fy mabwysiadu gynt, am nad oedd yr amseru’n iawn, ond erbyn heddiw dwi’n mwy na hapus dweud wrth bawb cystal fagwraeth a ges i. Erbyn hyn, dwi’n hŷn ac yn ddoethach, a galla i edrych yn ôl ar fy mywyd a sylweddoli pa mor wirioneddol wych mae wedi bod.

 

"Rydw i am i'r byd wybod cymaint rydw i'n caru Mam a Dad."

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again