Darganfyddwch bodlediad Cymru

Tymor 1

Tymor 1

Rydym yn deall y gall y broses fabwysiadu fod yn frawychus. Yn Nhymor 1, bydd ein teuluoedd yn eich arwain o’r camau cyntaf i gymorth ôl-fabwysiadu.

Tymor 2

Tymor 2

Mae ein Tymor diweddaraf yn amlygu’r plant sy’n aros hiraf ar hyn o bryd a phwysigrwydd bod angen i fabwysiadwyr gadw ‘meddwl agored’.

 

Mae’n naturiol bod gennych lawer o gwestiynau wrth ystyried mabwysiadu. Bydd hyn yn oed rhieni mabwysiadol profiadol yn chwilio am gyngor ar heriau newydd.

Mae Dweud y Gwir yn Blaen yn dwyn ynghyd straeon unigryw teuluoedd mabwysiadol o bob rhan o Gymru. Mae didwylledd ein rhieni wrth rannu eu profiadau yn rhoi golwg heb ei hidlo ar fabwysiadu.

P’un a ydych chi’n meddwl am fabwysiadu, yn aros am deulu neu eisoes yn rhieni, rydyn ni’n gwybod nad yw bob amser yn hawdd. Bydd ein teuluoedd wedi profi heriau tebyg - nid ydych chi ar eich pen eich hun.

Sengl? Priod? Cwpl o’r un rhyw? Rhan o’r gymuned LHDTQIA+? O ethnigrwydd BAME? Gallwch fabwysiadu. Gwrandewch ar straeon ein grŵp amrywiol o fabwysiadwyr sy’n rhannu realiti mynd trwy’r broses a bywyd fel teulu.

Gobeithiwn y bydd profiadau ein teuluoedd yn eich ysbrydoli i gymryd y cam nesaf hwnnw yn eich taith fabwysiadu.

Cymryd y cam nesaf

Darllenwch fwy o straeon gan ein mabwysiadwyr Straeon teuluol
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again