Comisiynwyd AFA Cymru gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddatblygu 4 Canllaw Ymarfer Da mewn pedwar maes allweddol: Cyswllt; Gweithio gyda Rhieni Geni; Pontio a chymorth cynnar; a Chymorth Mabwysiadu. Cyfarfuom ag ystod eang o ddarparwyr gwasanaethau, rheolwyr mabwysiadu ac ymarferwyr, rheolwyr gofal plant, a gofynasom am wybodaeth ac adborth gan rieni geni a rhieni mabwysiadu, gofalwyr maeth a phobl ifanc eu hunain.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod pob un o'r 4 canllaw bellach wedi'u cwblhau, gyda darluniau gwych gan Jess Coldrick a gellir ei gyrchu yma:
Yn ogystal ag ymgorffori enghreifftiau o ymarfer gorau o bob rhan o Gymru, mae'r canllawiau'n ystyried yr ymchwil a'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael, gan gynnwys gwybodaeth o Astudiaeth Carfan Cymru. Gobeithiwn yn fawr y byddant yn hysbysu ac yn cefnogi ymarferwyr yn yr hyn sydd angen digwydd ar bob cam o daith plentyn i fabwysiadu ac ar ôl mabwysiadu, ac yn y pen draw yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a theuluoedd.
Lansiwyd y canllawiau hyn yn ffurfiol mewn 2 gynhadledd ar-lein ym mis Tachwedd. Ar hyn o bryd, mae NAS ac AFA yn datblygu'r ail haen o ledaenu a gweithredu a bydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau hyfforddi gweminar yn 2021.
Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd y canllawiau'n ddefnyddiol i chi.
ASESIAD ANGHENION AM WASANAETHAU CYMORTH MABWYSIADU CYMRU GYFAN
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again