Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn hyrwyddo ac yn cefnogi arfer gorau ym maes mabwysiadu ledled Cymru. Os ydych yn ystyried mabwysiadu neu ddim ond am gael rhagor o wybodaeth, rydych wedi dod i'r lle cywir.
Gall y broses o fabwysiadu fod yn daith hir ac emosiynol, ond mae'r canlyniadau'n werth chweil. Ewch ati i ymchwilio, siarad â'r bobl gywir a pharatoi. Unwaith y dewch i ddeall pob cam yn y broses fabwysiadu, gallwch fwynhau eich siwrnai. Ac ni fyddwch yn gwneud y siwrnai ar eich pen eich hun. Mae cymorth wrth law bob amser.
Gofynnon ni i ben beth oedd y broses fabwysiadu iddo fel mabwysiadwr.
Dyma oedd ganddo i'w ddweud...
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
"Pan wnes i’r ymholiad cyntaf am fabwysiadu do’n i ddim yn gwybod dim am beth oedd ei angen ar fabwysiadwr, mewn gwirionedd."
"Fel rhiant sengl a oedd yn mabwysiadu, ro’n i’n cymryd y byddai’r gwasanaethau cymdeithasol yn poeni am fy sefyllfa ariannol ond doedden nhw ddim o gwbl."
"Do’n i ddim yn teimlo bod dim digon ‘da fi neu ‘mod i methu rhoi digon."
"Beth sydd angen i chi allu ‘neud yw cynnig cartref diogel a chariadus i blentyn ac os gallwch chi ‘neud hynny, fe gewch chi eich ystyried ar gyfer mabwysiadu."
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
"Mae angen i chi roi cariad at gariad, serch, a sylw i blentyn. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n meithrin y plentyn hwnnw. Nid yw plentyn eisiau pethau materol, mae'r plentyn hwnnw eisiau gwybod, ei fod wedi ei garu ac rydych chi yno i'r plentyn hwnnw, ac i gadw'r plentyn hwnnw'n ddiogel."
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
"Mae eich bywyd yn newid a dyna pam yr aethom amdani. Roedden ni eisiau hynny. Roedden ni eisiau teulu."
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
“Cyn inni ddechrau’r broses fabwysiadu, roeddwn i’n meddwl bod mabwysiadwyr yn rhyw fath o ‘rieni anhygoel’, ond sylweddolais yn fuan nad dyna beth mae’r gwasanaeth yn chwilio amdano. I fod yn fabwysiadwr, mae angen ichi allu darparu’r drefn ddyddiol, y sefydlogrwydd a’r amynedd y mae plentyn eu hangen."
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
“Mae ‘na blant mas ‘na sydd angen mamau a thadau, ac roedden ni’n gwpl oedd eisiau bod yn fam a thad”
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
“Mae wedi bod yn anodd, ond mae’r ddau wedi rhoi’r teulu i ni yr oeddem wastad wedi’i eisiau. A byddem yn ei wneud eto.”
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
“Gall derbyn tri ar yr un pryd fod yn hynod anodd, ond mae wedi rhoi llawenydd mawr i mi.”
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
“Mae oedi ein mab yn her heb amheuaeth, ond mae’n rhan o bwy ydyw. Ni fyddwn yn ei newid am y byd.”
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
“Dydy’r mabwysiadu’n golygu dim i mi, ond mae fy rhieni’n golygu popeth.”
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
"Rydym am fod yn dadau da a rhoi bywyd gwych i'n mab."
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
"Doeddwn i erioed yn awyddus i siarad am fod yn blentyn a fabwysiadwyd nes bod yr amser yn iawn i wneud hynny. Nawr rydw i'n hapus i ddweud wrth bawb fy mod i wedi cael magwraeth ardderchog. Rwy'n aeddfetach erbyn hyn ac wrth i mi edrych yn ôl ar fy mywyd rydw i'n sylweddoli pa mor hudolus a rhyfeddol y mae wedi bod."
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
"Dydy mabwysiadu ddim yn hawdd, ond yn y diwedd bydd gennych eich teulu eich hun." Dewisodd Scott ac Amanda fabwysiadu a nawr mae ganddynt ddau o blant ardderchog
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
"Fe wnaeth ein mab biolegol ein helpu ni trwy’r broses honno hefyd, gan ein helpu i sylweddoli bod pob teulu'n wahanol"
Gwyliwch ein storïau am deuluoedd
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again